麻w豆传媒

Gwasanaeth Gwastraff Busnes

Gwybodaeth Bwysig

Mae rheoliadau newydd ar wastraff busnes/annomestig yn dod i rym yng Nghymru o 6 Ebrill 2024 sy鈥檔 golygu NA ddylid rhoi papur, plastig, caniau, gwydr, cardfwrdd a bwyd yn y bin gwastraff gweddilliol (sbwriel). Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 gwastraff hwn y gellir ei ailgylchu gael eu cyflwyno ar wah芒n i鈥檞 casglu ar ochr y palmant.

I gael manylion pellach ewch i

Gwastraff ac Ailgylchu Safleoedd Busnes/Annomestig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol 麻w豆传媒 Gwent yn cynnig gwasanaeth gwastraff masnachol y codir t芒l amdano ac a gaiff ei arwain gan ailgylchu sydd eisoes yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru (gwahanu ailgylchu sych a bwyd ar ochr y ffordd a gwahardd deunyddiau y gellid eu hailgylchu o wastraff gweddilliol [sbwriel]).

Gofynion Cyfreithiol am Wastraff Busnes/Annomestig

Ni chaiff gwastraff masnachol/annomestig ei gynnwys mewn ardrethi busnes ac mae gan holl feddianwyr safleoedd o鈥檙 fath 鈥榙dyletwydd gofal鈥 dan adrannau 33 a 34 Deddf Diogelu鈥檙 Amgylchedd 1990. Mae hyn yn rhoi dyletswydd ar gynhyrchwyr gwastraff annomestig i sicrhau y caiff y gwastraff a gynhyrchir ei gadw mewn modd diogel ac wedi鈥檌 reoli ac mai dim ond i gwmni neu sefydliad sydd 芒 thrwydded i鈥檞 gasglu a gwaredu ag ef y caiff ei drosglwyddo. Caiff hyn ei reoli drwy Nodyn Dyletswydd Gofal/Trosglwyddo Gwastraff (DOC/WRN). Dylid cadw pob DOC/WTN a lofnodwyd gennych chi a hefyd eich cariwr trwyddedig am o leiaf 2 flynedd.

Mae鈥檙 gofynion DOC/WTN mewn grym ar gyfer gwastraff o safleoedd annomestig, yn cynnwys y rhai a ddefnyddir gan gyrff cyhoeddus ac elusennau. Mae safleoedd annomestig yn cynnwys unrhyw safle heblaw eiddo domestig neu garafan y mae rhywun yn byw ynddi fel cartref. Cyswllt a Deddf.

Diweddariad ar Ddeddfwriaeth

Mae鈥檙 rheoliadau am wastraff masnachol/annomestig yn newid yng Nghymru. Mae鈥檙 rheoliadau newydd a gyhoeddwyd dan adran 45AB Deddf Diogelu鈥檙 Amgylchedd 1990 a chant eu cyflwyno i gynyddu ailgylchu ansawdd uchel a gwahardd rhai deunyddiau o domen lanw neu losgydd (Ynni o Wastraff).

Mae鈥檙 rheoliadau newydd hyn yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar safleoedd busnes/annomestig i gyflwyno eu hailgylchu wedi ei wahanu wrth ymyl y ffordd ac i bob gwasanaeth casglu gwastraff masnachol trwyddedig ei gasglu a鈥檌 storio/prosesu yn y cyflwr hwnnw wedi ei wahanu. Mae鈥檙 rheoliadau newydd yn cynnwys dirwyon am ddiffyg cydymffurfiaeth gan y cynhyrchydd a hefyd y casglwr

Ein Gwasanaeth

Yn unol ag ethos y ddeddfwriaeth newydd, mae ein gwasanaeth yn cydymffurfio鈥檔 llwyr a chaiff ei arwain gan ailgylchu sy鈥檔 golygu ein bod yn ei gwneud yn ofynnol i bob opsiwn ailgylchu perthnasol gael ei flaenoriaethu fel mai dim ond deunydd na fedrir ei ailgylchu sydd ar 么l (gwastraff gweddilliol neu sbwriel).
Ar hyn o bryd gellir ailgylchu tua 70-80% o wastraff cyffredinol felly gyda鈥檔 costau ailgylchu llawer is, gallwch arbed arian a chynyddu鈥檙 arbediad hwnnw drwy gadw eich gofynion gwastraff gweddilliol mor isel ag sydd modd. Gwastraff gweddilliol (sbwriel) sy鈥檔 costio mwyaf i鈥檞 waredu ac ni ddylai gynnwys unrhyw ddeunydd ailgylchu y gallwn ei gasglu ar hyn o bryd.
  Llyfryn Gwasanaeth

Mae ein gwasanaeth yn cynnig:

  • Cydymffurfiaeth gyda rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru (gwahanu gwastraff ar ymyl y ffordd)
  • Casgliad wythnosol dibynadwy o ailgylchu sych, ailgylchu bwyd a gwastraff gweddilliol (sbwriel)
  • Cerbydau ailgylchu pwrpasol, mewn cyflwr da a gyda sawl adran
  • Ystod eang o feintiau bin/cynwysyddion i ymdopi gyda holl ofynion o gawell 55 ltr hyd at fin 1100 Ltr, 4 olwyn felly beth bynnag yw maint eich busnes neu sefydliad, mae gennym opsiynau i weddu i chi.
    Contract treigl 12 mis.
  • Canolfan gyswllt ar gael 5 diwrnod yr wythnos gydag opsiynau ar gyfer cysylltu yn uniongyrchol drwy E-bost gyda swyddogion gwastraf

I gael manylion llawn yn cynnwys yr holl costau, cysylltwch 芒 ni ar 1495 311556 neu drwy E-bost yn: waste@blaenau-gwent.gov.uk

Cynnig Gwasanaeth newydd, Mynediad Masnachwyr i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC)

Ar gyfer rhai busnesau, nid gwasanaeth casglu wythnosol dan gontract yw鈥檙 un gorau gan y gallech fod yn gweithio o fan neu efallai bod eich cynhyrchu gwastaff yn anghyson.
Bydd CBSBG yn ymestyn ein gwasanaeth masnachol yn y dyfodol agos drwy gynnig opsiwn y codir t芒l amdano ar gyfer masnachwyr/meddianwyr eiddo annomestig i ddod ag AILGYLCHU MASNACHOL YN UNIG i HWRC ddiweddaraf y fwrdeistref yn Roseheyworth sydd 芒鈥檙 drwydded angenrheidiol ar gyfer gwastraff masnach. 

Mae gan fasnachwyr y cyfle i brynu nodyn trosglwyddo gwastraff trwydded a nifer briodol o dalebau ymweliad neu opsiwn untro, gyda鈥檙 prisio yn seiliedig ar nifer yr ymweliadau a maint y cerbyd a ddatgelir wrth wneud cais am y drwydded (bach/canolig/mawr).

Mae鈥檔 ofyniad gan y gyfraith fod yn rhaid i unrhyw un sy鈥檔 cludo gwastraff masnachol/annomestig gael Trwydded Cludwyr Gwastraff. Mae鈥檙 rhain ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac nid oes t芒l ar hyn o bryd ar gyfer y cludwyr haen isaf. Mae鈥檔 hanfodol cael Trwydded Cludo Gwatraff i wneud cais am drwydded i HWRC y Cyngor. 

I gael manylion llawn yn cynnwys costau cysylltwch 芒 ni ar 01495 311556 neu drwy E-bost yn: waste@blaenau-gwent.gov.uk

I ble yr aiff fy ngwastraff ac ailgylchu?

Caiff yr holl wastraff ac ailgylchu a gesglir gan CBSBG ei waredu gyda鈥檙 bwriad o 鈥榙im i domen lanw鈥. Rhoddir blaenoriaeth i waredu drwy ailgylchu ac yna adfer fel yr esbonnir isod.

Ailgylchu Sych (Papur a Chardfwrdd, Cynwysyddion Plastig, Caniau a Cartonau Cwyr a Chynwysyddion Gwydr Cymysg):
Drwy ein gwasanaeth cydymffurfiol, mae ansawdd yr ailgylchu ar 么l ei wahanu yn uchel ac mae鈥檔 ein galluogi i gadw costau gwaredu ac felly brisiau yn isel. Caiff y deunydd eilgylch a gesglir ei wahanu ymhellach yn ein gorsaf drosglwyddo gwastraff ac yna aiff i wahanol ailbrosesyddion i gael ei wneud yn gynnyrch newydd.

Gwastraff Bwyd:
Caiff gwastraff bwyd ei anfon i safle treulio anerobig yng Nghymru. Mae treulio anerobig yn broses lle mae bacteria yn torri deunydd organig megis gwastraff bwyd i lawr, heb ocsigen. Wrth i鈥檙 bacteria ddefnyddio鈥檙 gwastraff bwyd, maent yn gollwng nwy bio sy鈥檔 codi i dop y treuliwr. Caiff y nwy ei gasglu a naill ai ei anfon i鈥檙 grid neu ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. Caiff y llaid dilynol sy鈥檔 gyfoethog mewn maethion ei ddefnyddio fel gwrtaith ansawdd uchel ar gyfer amaethyddiaeth.

Gwastraff Gweddilliol (Sbwriel na fedrir ei ailgylchu):
Caiff y gwastraff gweddilliol ei anfon i safle 鈥淵nni o Wastraff鈥 ger Caerdydd lle caiff ei losgi a defnyddir y gwres i gynhyrchu trydan. Caiff metalau eu tynnu o鈥檙 lludw yng ngwaelod y llosgydd a chaiff y lludw ei hun ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer adeiladu ffyrdd a gwaith adeiladu arall.

Os hoffech gael mwy o fanylion am nifer tunelli ac i lle yr aiff y deunydd a gasglwn ac a broseswn, cliciwch yma:
1.

2.