Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod yng Nghymru 2026/27
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod i fusnesau cymwys ar gyfer 2026-27.
Mae'r rhyddhad hwn wedi'i anelu at fusnesau cymwys yn y sector lletygarwch bwyd a diod, er enghraifft tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw.
Nod y cynllun yw rhoi cymorth i eiddo cymwys a feddiannir drwy gynnig gostyngiad o 15% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.
Bydd y rhyddhad yn berthnasol i bob busnes cymwys, ond bydd y rhyddhad yn amodol ar uchafswm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru.
Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw 拢110,000 ar draws pob eiddo a feddiennir gan yr un busnes.
Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y mae鈥檔 ei geisio ledled Cymru yn fwy na'r uchafswm hwn, wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.
BYDD MANYLION YCHWANEGOL A FFURFLEN GAIS AR GAEL YMA YN FUAN.
Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yng Nghymru
Daeth cynllun parhaol newydd i rym ar 1 Ebrill 2018. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.
- bydd safleoedd busnes cymwys gyda gwerth ardrethol o hyd at 拢6,000 yn derbyn rhyddhad 100%; a
- bydd rhai gyda gwerth ardrethol rhwng 拢6,001 a 拢12,000 yn derbyn rhyddhad ar sail tapr o 100% i sero.
Bydd y mathau dilynol o fusnes yn parhau i gael rhyddhad fel sy鈥檔 dilyn:
Safleoedd Cofrestredig Gofal Plant
Caiff y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach ar gyfer darparwyr gofal plant ei gynyddu i roi rhyddhad 100% i bob darparydd cofrestredig gofal plant yng Nghymru. Dechreuodd y lefel uwch hwn o ryddhad ar 1 Ebrill 2019.
Swyddfeydd Post
- Swyddfeydd post gyda gwerth ardrethol hyd at 拢9,000 yn derbyn rhyddhad 100%
- Swyddfeydd post gyda gwerth ardrethol rhwng 拢9,001 a 拢12,000 yn derbyn rhyddhad 50%
Terfyn Amlfeddiannaeth
Lle mae trethdalwr yn atebol am fwy na dau eiddo ar un rhestr ardrethi annomestig leol (鈥渞hestr leol鈥) ac mai dim ond amodau gwerth ardrethol y mae鈥檙 eiddo hynny yn ei gyrraedd, dim ond am uchafswm o ddau eiddo o鈥檙 fath y bydd y talwr ardrethi yn derbyn rhyddhad.
Rhyddhad Trosiannol
Ar gyfer eiddo sy鈥檔 cymhwyso, dim ond am atebolrwydd ardrethi annomestig o fewn y cyfnod 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2025 y bydd rhyddhad trosiannol ar gael.
Mae canllawiau ar y yn awr ar gael ar
Sut i wneud cais
Os ydych yn gymwys, caiff rhyddhad ardrethi trosiannol ei roi yn awtomatig ar eich bil felly ni fydd angen i chi wneud cais amdano.
Eiddo Gwag neu a Ddefnyddir yn Rhannol / Eiddo Eithriedig
Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Eiddo Gwag
Caiff eiddo busnes gwag eu heithrio rhag talu ardrethi busnes am 3 mis ar 么l i鈥檙 eiddo ddod yn wag. Mae eithriadau ychwanegol ar gyfer rhai mathau o eiddo dan werth ardrethol penodol. Mae鈥檙 rhaib yn cynnwys:
- safleoedd diwydiannol, tebyg i warysau, sydd wedi eu heithrio am 3 mis pellach
- adeiladau rhestredig sydd wedi eu heithrio nes c芒nt eu defnyddio eto
- adeiladau gyda gwerth ardrethol dan 拢2,600 sydd yn eithriedig nes c芒nt eu defnyddio eto
- adeiladau y mae鈥檙 elusennau yn berchen arnynt, sydd wedi eu eu heithrio os yw defnydd nesaf yr adeilad yn debyg o fod yn gyfangwbl neu鈥檔 bennaf ar gyfer dibenion elusennol
- adeiladau clybiau chwaraeon amatur cymunedol sydd yn eithriedig os yw eu defnydd nesaf yn debygol o fod yn gyfangwbl neu鈥檔 bennaf ar gyfer clwb chwaraeon
- busnes y mae ei berchennog yn gwmni sy鈥檔 destun gorchymyn dirwyn i ben a wnaed dan Ddeddf Ansolfedd 1986 sy鈥檔 cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol dan y Ddeddf honno
- busnes y mae ei berchennog yn cwmni yn nwylo gweinyddwyr o fewn ystyr 1 Atodlen B1 Deddf Ansolfedd 1986 neu sy鈥檔 destun gorchymyn gweinyddiaeth a wnaed dan y darpariaethau gweinyddiaeth blaenorol o fewn ystyr erthygl 3 Gorchymyn Deddf Menter 2002 (Dechreuad Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2003
- busnes y mae gan ei berchennog hawl i feddiant yn unig yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd personol person sydd wedi marw.
Ar 么l i鈥檙 cyfnod eithrio ddod i ben, byddwch yn atebol am y bil ardrethi busnes llawn. Dylech hysbysu eich awdurdod lleol pan ddaw eich eiddo yn wag a hefyd pan fydd cael ei ddefnyddio eto.
Rhyddhad ardrethi ar gyfer Eiddo a Ddefnyddir yn Rhannol (Adran 44A)
Lle ymddengys i鈥檙 awdurdod mai dim ond rhan o eiddo sy鈥檔 wag, ac y bydd yn parhau felly am gyfnod byr, yna gall yr awdurdod ofyn i鈥檙 Swyddfa Prisio ddyrannu鈥檙 gwerth ardrethol ac felly godi ardrethi ar y rhan a ddefnyddir. Dylid nodi y gall y rhan nas defnyddir ddal i fod yn atebol am ffi ardrethi eiddo gwag.
Os ydych angen mwy o wybodaeth, cysylltwch 芒鈥檙 Adran Ardrethi Busnes ar 01495 363900
Gwybodaeth bellach
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch 芒鈥檙 Adran Ardrethi Busnes
Rhif Ff么n: 01495 363900
Cyfeiriad: Adran Refeniw, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN.
Cyfeiriad E-bost: nndr@blaenau-gwent.gov.uk