Âéw¶¹´«Ã½

Swydd wag Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Moeseg ac Safonau

Hysbysiad Cyhoeddus

Mae gan y Pwyllgor statudol hwn rôl hanfodol wrth gynnal safonau moesegol uchel ar lefel y Cyngor Bwrdeistref a Chynghorau Cymuned. Yn gryno,
rôl y Pwyllgor yw hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan Gynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig y Cyngor. Mae manylion llawn Cylch
Gorchwyl y Pwyllgor Safonau ar gael yn Adran 8 Cyfansoddiad y Cyngor a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor.

Mae’r Pwyllgor Safonau yn cwrdd o leiaf unwaith y
flwyddyn.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr:

  • fod yn dda am wrando
  • medru asesu tystiolaeth sy’n gwrthddweud
  • medru gweithio fel rhan o dîm
  • bod o gymeriad da

Nid yw'r personau canlynol yn gymwys i wneud cais am y swydd:

  • Cynghorydd neu Swyddog sy'n gweithio mewn unrhyw Gyngor, Awdurdod Tân, Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Gyngor Cymuned/Tref
  • Cyn-Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Âéw¶¹´«Ã½ Gwent tan ddwy flynedd ar ôl eu terfynu os ydynt yn cael swydd gyfyngedig yn wleidyddol (dim cyfyngiad ar swyddi anwleidyddol
  • Cyn-Gynghorwyr, rhaid i ddwy flynedd fynd heibio neu bum mlynedd ar gyfer Uwch Aelodau (e.e. yn dal swydd cabinet)
  • Cyn-Gynghorwyr/Swyddogion unrhyw Gyngor, Awdurdod Tân neu Awdurdod Parc Cenedlaethol arall tan flwyddyn ar ôl terfynu

Y gydnabyddiaeth ariannol yw £210 y diwrnod
Cysylltwch â Steve Berry 01495 355080
steve.berry@blaenau-gwent.gov.uk 
Dyddiad Cau: 30 Ebrill 2026 4:00pm