Mae angen i'r Cyngor gasglu’r Dreth Gyngor i'n helpu i dalu am y gwasanaethau a ddarparwn i'n cymuned.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddulliau talu ar gyfer y Dreth Gyngor.
Gallwch dalu drwy:
- Debyd Uniongyrchol
- Archeb Sefydlog
- Taliad Ar-lein
- Gwasanaeth Taliadau Awtomataidd
- Cerdyn PayPoint neu Swyddfa'r Post
- Cod QR - gallwch ddod o hyd i hwn ar gefn eich bil
- Trwy'r Ganolfan Gyswllt (Taliad dros y ffôn)
Os ydych chi eisiau newid y ffordd rydych chi'n talu, defnyddiwch y ddolen isod:
Taliadau Ar-lein
I wneud taliad ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod:
Swyddfa'r Post a Siop PayPoint
Os oes angen i chi ofyn am gerdyn PayPoint, gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r ffurflen newid manylion talu.
Fel arall, gallwch ddefnyddio'r cod bar ar gefn eich bil.
I ddod o hyd i'ch siop PayPoint leol, defnyddiwch y ddolen isod:
Byddwch yn gallu gwneud taliad drwy arian parod, cerdyn debyd neu gredyd yn eich swyddfa bost leol neu gyfleuster PayPoint.
Nid oes angen i chi ofyn am gerdyn PayPoint newydd bob blwyddyn.
Gwasanaeth Taliadau Awtomatig
Gallwch dalu Cyngor Âéw¶¹´«Ã½ Gwent unrhyw bryd. Mae'r gwasanaeth ar agor 24 awr y dydd.
Ffoniwch 0161 621 2977 a dilynwch y cyfarwyddiadau. Sicrhewch fod eich cerdyn credyd neu ddebyd wrth law.