Os ydych chi'n gymwys ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau y Dreth Gyngor (CTRS) oherwydd eich bod chi ar incwm isel, ac rydych chi'n dibynnu ar olew gwresogi neu LPG i gynhesu'ch cartref, rydych chi'n gymwys i gael taliad untro o £200.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Os ydych chi eisoes yn derbyn CTRS ac nad yw'ch cartref wedi'i gysylltu â'r grid nwy, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol ac yn eich gwahodd i wneud cais. Gofynnir i chi gadarnhau'ch math o danwydd gwresogi trwy roi anfoneb i ni o fewn y 12 mis diwethaf a darparu manylion banc.
Os nad ydych chi'n derbyn CTRS ar hyn o bryd, gellir dod o hyd i'r manylion cymhwysedd a'r cais am hynny yma:
Pa mor hir sydd gen i i wneud cais?
Rhaid i chi fod yn derbyn CTRS, neu fod wedi gwneud cais llwyddiannus am CTRS, rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026. Yna dylech wneud cais am y cymorth olew gwresogi ac LPG cyn gynted â phosibl. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2026.
Rwy'n barod i wneud cais
Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod gennych gopi o'ch anfoneb neu dderbynneb olew gwresogi o'r 12 mis diwethaf a chopi o ddatganiad banc sy'n dangos manylion eich banc yn glir.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch yma i wneud cais
Sut alla i gael cymorth pellach?
Os oes gennych ymholiad penodol gallwch anfon e-bost at CommunityHubs@blaenau-gwent.gov.uk a bydd eich awdurdod lleol yn ymateb i chi.
A oes cymorth arall ar gael?
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu'ch biliau neu gynhesu'ch cartref, cliciwch yma: