Âéw¶¹´«Ã½

Gwahodd grwpiau i wneud cais am Grantiau Cydlyniant Cymunedol wrth ddathlu llwyddiant prosiectau

Mae grwpiau cymunedol ac ysgolion ar draws Âéw¶¹´«Ã½ Gwent yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid yn rownd nesaf Grant Cydlyniant Cymunedol Gwent, sy'n ariannu prosiectau sy'n dod â phobl at ei gilydd, ac yn hyrwyddo cynhwysiant.

Mae hyd at £2,000 ar gael i gefnogi prosiectau sy'n helpu i gryfhau cysylltiadau cymunedol, dathlu amrywiaeth a chreu cyfleoedd i bobl nad ydynt fel arfer yn dod at ei gilydd, i gwrdd, a rhannu profiadau.

Y llynedd, dyfarnwyd yr arian i bedwar prosiect ym Mlaenau Gwent:

  • Together on Air – prosiect radio cymunedol
  • Gweithdai diwylliant Affricanaidd Sefydliad y Glowyr Llanhiledd
  • Prosiect Perthyn a Threftadaeth TÅ· Cymunedol Bryn Farm
  • Chwaraeon cynhwysol Clwb Criced Abertyleri

Fe wnaeth Together on Air defnyddio pŵer cyfryngau creadigol i gysylltu pobl, gan ddod â thrigolion o wahanol oedrannau a chefndiroedd at ei gilydd. Daeth mwy na 80 o bobl ynghyd, yn cynnwys trigolion hŷn, pobl ifanc, cymunedau lleiafrifol, ffoaduriaid ac aelodau o gymunedau teithwyr, i gymryd rhan mewn sesiynau radio wythnosol yn BGfm Radio. Roedd y gweithgareddau yn cynnwys adrodd storïau, barddoniaeth, perfformiadau cerddorol a thrafodaethau meic agored. Cafodd bawb gyfle i gynllunio, recordio, darlledu’n fyw a golygu.

Roedd y darllediadau yn dathlu treftadaeth leol yn Nant-y-glo a'r cymoedd ehangach, tra hefyd yn adlewyrchu'r diwylliannau amrywiol sy'n siapio Âéw¶¹´«Ã½ Gwent heddiw. Roedd y sesiynau hefyd ar gael ar ffurf podlediadau.

Roedd Dathlu Diwylliant Affricanaidd yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd yn rhaglen fywiog o weithdai diwylliant Affricanaidd i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 16 oed. Cafodd y plant gyfle i archwilio diwylliannau a thraddodiadau Zimbabwe, Nigeria a Ghana yn ymarferol, yn cynnwys coginio Reis Jollof. Un o glasuron Nigeria, a chreu drymiau Djembe, masgiau llwythol a chollage ar y thema saffari.

Llwyddodd y sesiynau i annog trafodaeth agored, chwilfrydedd a pharch at wahanol ddiwylliannau, a chynnig lle diogel a chroesawgar i blant ddysgu, gofyn cwestiynau a dathlu amrywiaeth.

Roedd Cryfhau Ymdeimlad o Berthyn a Threftadaeth yn Nhŷ Cymunedol Bryn Farm yn rhaglen o weithgareddau cynhwysol, yn pontio’r cenedlaethau, gan ganolbwyntio ar dreftadaeth, caredigrwydd a rhannu cyfrifoldeb.

Cafodd pobl leol gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a oedd yn amrywio o arddio a pharatoi bwyd, i gelfyddydau ac adrodd storïau. Gan ddefnyddio bwyd fel man cychwyn, aeth y trigolion hÅ·²Ô ati i rannu atgofion am ddulliau traddodiadol o dyfu, sychu a phiclo bwyd, felly’n atgyfnerthu dealltwriaeth ymhlith y cenedlaethau ac ysbrydoli prosiectau garddio cymunedol yn y dyfodol.

Rhoddodd y prosiect bwyslais cryf ar barch, cynhwysiant, a mynd i’r afael â pherthnasoedd rhwng y cenedlaethau. O ganlyniad, mae gwirfoddolwyr newydd wedi camu ymlaen, ac mae grwpiau gweithgareddau ychwanegol bellach yn ffurfio yn y Tŷ Cymunedol.

Clwb Criced Abertyleri yn hyrwyddo criced i ferched gyda phwyslais ar ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rhoddodd y prosiect hwn gyfle i ddisgyblion o bum ysgol gael hyfforddiant criced cynhwysol, mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol. Fe wnaeth mwy na 300 o ddisgyblion gymryd rhan, yn cynnwys llawer nad oeddent erioed wedi cymryd rhan mewn chwaraeon strwythuredig o'r blaen. Cynlluniwyd y sesiynau i ddiwallu ystod eang o anghenion a galluoedd, drwy ddefnyddio offer wedi'i addasu a gweithgareddau pwrpasol, i sicrhau bod pawb a gymerodd rhan, yn teimlo eu bod yn cael cyfle i ymuno. Creodd y dull hwn ymdeimlad o berthyn i ddisgyblion o gefndiroedd diwylliannol, cymdeithasol ac addysgol amrywiol a chefnogwyd y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i gymryd rhan yn hyderus.

Mae'r prosiect hefyd wedi adfywio diddordeb yn nhraddodiad criced yr ardal, gan roi cyfle i ddisgyblion feithrin cyswllt â chlybiau lleol, a deall rôl criced wrth lunio hunaniaeth yn y gymuned.

Trwy’r fath ymgysylltu gyson, llwyddwyd i greu cyfeillgarwch ar draws gwahanol grwpiau o ddisgyblion, gan hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol a chryfhau dealltwriaeth ymysg unigolion o gefndiroedd amrywiol. O ganlyniad, llwyddwyd i gryfhau llwybrau lleol i ferched a merched ifanc sydd am barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu cymunedau.

Dywedodd y Cyng. Jules Gardner, Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau ym Mlaenau Gwent:

“Mae'r Grant Cydlyniant Cymunedol yn dangos cymaint o wahaniaeth go iawn y gall symiau bach o gyllid ei wneud, a hynny’n barhaol. Mae'r prosiectau hyn wedi helpu pobl i deimlo bod ganddynt lais, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt ymdeimlad o gysylltiad, boed hynny trwy rannu straeon lleol ar y radio, dathlu gwahanol ddiwylliannau, neu ddod â chenedlaethau at ei gilydd yn enw treftadaeth a bwyd.

“ ninnau yn Gyngor Marmot, sy’n anelu i wella cydlyniant cymunedol, a thrwy ein ffordd newydd o weithio gyda chymunedau trwy'r Fargen, rydym yn falch o gefnogi syniadau cymunedol sy'n cryfhau ymdeimlad o berthyn, ac yn hyrwyddo cynhwysiant i bawb. Nawr bod y cyfle i wneud cais ar agor, rwyf yn annog grwpiau cymunedol ac ysgolion ledled Âéw¶¹´«Ã½ Gwent i gynnig eu syniadau a’n helpu i barhau i feithrin cymunedau cynhwysol, sy’n estyn croeso i bawb.â€

Mae ceisiadau nawr ar agor. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026.

I gael mwy o wybodaeth am gymhwystra a sut i wneud cais, ewch i: Grant Cydlyniant Cymunedol 2026 Ffurflen Cais am Gyllid | Âéw¶¹´«Ã½ Gwent CBC